Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
Teitl: Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012. Mae hefyd yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i’r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012.
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn. Mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn hefyd wedi ei estyn felly gan un flwyddyn.
Craffu technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodwyd y pwyntiau canlynol i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn -
1. Effaith y Gorchymyn hwn yw gohirio am flwyddyn yr etholiadau yn Ynys Môn. Er hynny, mae’r ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r gallu i wneud y Gorchymyn hwn yn pennu mai’r weithdrefn negyddol sy’n gymwys.
2. Caiff y Gorchymyn hefyd yr effaith o roi Ynys Môn ar gylch etholiadol gwahanol i weddill siroedd Cymru. Tynnir sylw’n arbennig felly at baragraff terfynol rhan 4 o’r Memorandwm Esboniadol.
[Rh.S. 21.3(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;]
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mawrth 2012